Cardiff Anti-Racism Training | Hyfforddiant Gwrth-hiliaeth Caerdydd

Cardiff Anti-Racism Training | Hyfforddiant Gwrth-hiliaeth Caerdydd

Anti-racism training tailored for climate activists| Hyfforddiant gwrth-hiliaeth wedi'i deilwra ar gyfer gweithredwyr hinsawdd

By Friends of the Earth

Date and time

Sat, 13 Apr 2024 10:00 - 17:00 GMT+1

Location

Cardiff Central Library

The Hayes Cardiff CF10 1FL United Kingdom

About this event

Join us for our anti-racism training tailored for climate activists, where we dive into practical skills and do some thinking around structural changes essential for fostering anti-racist movements.

We'll explore the intersection between climate justice and racial justice and shed light on Britain's historical relationship with racism and anti-racism efforts. We’re also going to be delving into the nuanced dynamics at play when building anti-racism campaigns within the wider climate movement.

This training is not just an opportunity to learn but a call to action, giving participants some of the tools to contribute to a more equitable and united fight for a sustainable future. This training is a step towards building a climate movement that reflects the diversity of voices and experiences around us.

After the training you will have the opportunity to work with your local staff members and the antiracist consultant to start embedding antiracism into your current or new campaigns. We also have a small grant that is available to apply for after you have attended the training to help with this work!

We also know that this work can greatly impact activists who are people of colour, so for this reason we are offering 1-2-1 therapeutic support from USEMI after the training so that you have space to talk and be heard.

We’ll provide a vegetarian/vegan lunch and refreshments on the day so please state if you have any dietary requirements when you sign up for the training

Who is this training course for?

  • Local action group members who are wanting to learn skills and feel confident to embed anti-racism into their local and national campaigns.
  • We feel that it would be best to have as many people from each group attend as possible so that the learning is shared by the whole group and it’s easier to implement new ways of working together as a team.


Why attend?

  • Gain skills and feel confident to develop and run environmental justice campaigns with an anti-racism focus.
  • Be trained by a highly experienced anti-racism consultant who has lots of experience in developing and running anti-racism and environmental justice campaigns


What to expect/agenda

  • Linking Racial justice and Climate Justice
  • A history of British Racism
  • Understanding structural racism
  • Community Mapping
  • Understanding anti-racist campaigns
  • Spectrum of Allies
  • Building anti-racist campaigns


Your hosts/facilitators

Bilal Hussain

Jenny Lloyd, Friends of the Earth Cymru


Accessibility

The venue is accessible and there is lift access to the room where the training is being held.

During this training we will use Powerpoint and take part in group work.

In addition, we have the follow processes in place to support accessibility;

  • If you require a BSL interpreter or language interpreter please contact community@foe.co.uk two weeks before the training and we will aim to book an expert this service. If there are no available interpreters, we will work with you to do whatever we can to support your engagement in the training.
  • PowerPoints and handouts will be emailed prior to training.
  • We welcome carers and support workers to attend training alongside any participants. Please let us know when registering so we can ensure that you are paired in any group activities.
  • Please let us know via the booking form if you have any other accessibility requirements or alternatively you can email us on community@foe.co.uk to talk to us about it.


Getting there

We encourage you to come by public transport if at all possible. The venue is the Peter Cronin Suite at Central Library, Cardiff, which is a short walk from Cardiff Central Train Station.


Ticket information

Tickets are free: But please bear in mind mind we plan the event and order refreshments based on the registrations, and we have limited tickets. Please only book a ticket if you intend to come!

Young people: Under 16s need to be accompanied by a parent/guardian, or responsible adult (with parental consent). 16 and 17 year olds can attend unaccompanied (with parental consent required in advance). Unfortunately, we are not able to offer childcare provision.

Cancellations: If you book a ticket, but subsequently find you can't attend, please cancel your ticket. This helps us know who is attending, plan the event, and offer your place to someone else.

Please let us know if travel cost would be a barrier to you joining this training by e-mailing communty@foe.co.uk and we can look at how we can add support.


Ynglŷn â'r hyfforddiant

Ymunwch â ni ar gyfer ein hyfforddiant gwrth-hiliaeth wedi'i deilwra ar gyfer gweithredwyr hinsawdd, lle rydym yn ymchwilio i’r sgiliau ymarferol a’r meddylfryd sy’n gysylltiedig â’r newidiadau strwythurol sy'n hanfodol ar gyfer meithrin symudiadau gwrth-hiliol.

Byddwn yn archwilio'r croestoriad rhwng cyfiawnder hinsawdd a chyfiawnder hiliol ac yn taflu goleuni ar berthynas hanesyddol Prydain ag ymdrechion hiliaeth a gwrth-hiliaeth. Byddwn hefyd yn ymchwilio i'r ddeinameg gynhenid sydd ar waith wrth adeiladu ymgyrchoedd gwrth-hiliaeth o fewn y mudiad hinsawdd ehangach.

Nid cyfle i ddysgu yn unig yw'r hyfforddiant hwn, ond galwad i weithredu, gan roi rhai o'r adnoddau i gyfranogwyr gyfrannu at frwydr fwy teg ac unedig ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Mae'r hyfforddiant hwn yn gam tuag at adeiladu mudiad hinsawdd sy'n adlewyrchu amrywiaeth y lleisiau a'r profiadau o'n cwmpas.

Ar ôl yr hyfforddiant, cewch gyfle i weithio gyda'ch aelodau staff lleol a'r ymgynghorydd gwrth-hiliaeth i ddechrau gwreiddio gwrth-hiliaeth yn eich ymgyrchoedd presennol neu newydd. Mae gennym hefyd grant bach sydd ar gael i wneud cais amdano ar ôl i chi fynychu'r hyfforddiant i helpu gyda'r gwaith hwn!

Rydym hefyd yn gwybod y gall y gwaith hwn effeithio'n fawr ar weithredwyr sy'n bobl o liw, felly am y rheswm hwn rydym yn cynnig cefnogaeth therapiwtig 1-2-1 gan USEMI ar ôl yr hyfforddiant fel bod gennych le i siarad a chael eich clywed.

Byddwn yn darparu cinio a lluniaeth llysieuol/fegan ar y diwrnod, felly nodwch os oes gennych unrhyw ofynion dietegol pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer yr hyfforddiant.


Ar gyfer pwy mae'r cwrs / hyfforddiant hwn?

  • Aelodau grwpiau gweithredu lleol sydd eisiau dysgu sgiliau a theimlo'n hyderus i ymgorffori gwrth-hiliaeth yn eu hymgyrchoedd lleol a chenedlaethol.
  • Rydym yn teimlo y byddai'n well cael cymaint o bobl o bob grŵp â phosibl fel y gall y grŵp cyfan rannu’r dysgu ac mae'n haws gweithredu ffyrdd newydd o gydweithio fel tîm.

Pam mynychu?

  • Ennill sgiliau a theimlo'n hyderus i ddatblygu a chynnal ymgyrchoedd cyfiawnder amgylcheddol gyda ffocws gwrth-hiliaeth.
  • Cael eich hyfforddi gan ymgynghorydd gwrth-hiliaeth profiadol iawn sydd â llawer o brofiad o ddatblygu a chynnal ymgyrchoedd gwrth-hiliaeth a chyfiawnder amgylcheddol


Beth i'w ddisgwyl / agenda

  • Y cysylltiad rhwng cyfiawnder hiliol a chyfiawnder hinsawdd
  • Hanes Hiliaeth Brydeinig
  • Deall hiliaeth strwythurol
  • Mapio Cymunedol
  • Deall ymgyrchoedd gwrth-hiliol
  • Sbectrwm y Cynghreiriaid
  • Adeiladu ymgyrchoedd gwrth-hiliol

Pwy sy’n cynnal/hwyluso’r digwyddiad:

Bilal Hussain

Jenny Lloyd, Cyfeillion Y Ddear

Hygyrchedd

Mae'r lleoliad yn hygyrch ac mae lifft i'r ystafell lle mae'r hyfforddiant yn cael ei gynnal.

Yn ystod yr hyfforddiant hwn, byddwn yn defnyddio PowerPoint ac yn cymryd rhan mewn gwaith grŵp.

Yn ogystal, mae gennym y prosesau canlynol ar waith i gefnogi hygyrchedd;

  • Os oes angen dehonglydd BSL neu ddehonglydd iaith arnoch, cysylltwch â community@foe.co.uk bythefnos cyn yr hyfforddiant a byddwn yn anelu at drefnu arbenigwr ar y gwasanaeth hwn. Os nad oes dehonglwyr ar gael, byddwn yn gweithio gyda chi i wneud beth bynnag a allwn i gefnogi'ch cyfranogiad yn yr hyfforddiant.
  • Bydd PowerPoints a thaflenni'n cael eu hanfon drwy e-bost cyn yr hyfforddiant.
  • Rydym yn croesawu gofalwyr a gweithwyr cymorth i fynychu hyfforddiant ochr yn ochr ag unrhyw gyfranogwyr. Rhowch wybod i ni wrth gofrestru fel y gallwn sicrhau eich bod yn cael eich paru mewn unrhyw weithgareddau grŵp.
  • Rhowch wybod i ni drwy'r ffurflen archebu os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd eraill neu fel arall gallwch anfon e-bost atom ar community@foe.co.uk i siarad â ni amdano.


Cyrraedd yno

Rydym yn eich annog i ddod ar drafnidiaeth gyhoeddus os yw hynny'n bosibl. Y lleoliad yw Ystafell Peter Cronin yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd, sy'n daith gerdded fer o Orsaf Drenau Ganolog Caerdydd.


Gwybodaeth am docynnau

Mae tocynnau am ddim: Ond cofiwch ein bod yn cynllunio'r digwyddiad ac yn archebu lluniaeth yn seiliedig ar y cofrestriadau, a dim ond nifer gyfyngedig o docynnau sydd gennym. Peidiwch ag archebu tocyn oni bai eich bod yn bwriadu dod!

Pobl ifanc: Mae angen i blant dan 16 oed fod yng nghwmni rhiant/gwarcheidwad, neu oedolyn cyfrifol (gyda chaniatâd rhieni). Gall pobl ifanc 16 ac 17 oed ddod ar eu pennau eu hunain (rhaid cael caniatâd rhieni ymlaen llaw). Yn anffodus, nid ydym yn gallu cynnig darpariaeth gofal plant.

Canslo: Os byddwch yn archebu tocyn, ond yn gweld wedyn na allwch fod yn bresennol, dylech ganslo eich tocyn. Mae hyn yn ein helpu i wybod pwy sy'n mynychu, cynllunio'r digwyddiad, a chynnig eich lle i rywun arall.

Rhowch wybod i ni os byddai cost teithio yn rhwystr i chi ymuno â'r hyfforddiant hwn drwy anfon e-bost at communty@foe.co.uk a gallwn edrych ar sut y gallwn helpu.

Organised by

Postponed